Cofnodion cryno - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

a fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Chwefror 2025

Amser: 09.30 - 12.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
14823


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Andrew RT Davies AS (Cadeirydd)

Hannah Blythyn AS

Hefin David AS

Luke Fletcher AS

Samuel Kurtz AS

Jenny Rathbone AS

Tystion:

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru

Mark Alexander, Llywodraeth Cymru

Naomi Matthiessen, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Robert Donovan (Clerc)

Nicole Haylor-Mott (Dirprwy Glerc)

Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol)

Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol)

Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol)

Elfyn Henderson (Ymchwilydd)

Sara Moran (Ymchwilydd)

Katy Orford (Ymchwilydd)

Gareth David Thomas (Ymchwilydd)

Lucy Morgan (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1         Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2        O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Samuel Kurtz AS, Andrew RT Davies AS a Huw Irranca-Davies AS fuddiant.

</AI1>

<AI2>

2       Papurau i'w nodi

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

</AI2>

<AI3>

2.1   Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant

</AI3>

<AI4>

2.2   Dyfodol Dur yng Nghymru

</AI4>

<AI5>

2.3   Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

</AI5>

<AI6>

2.4   Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

</AI6>

<AI7>

2.5   Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm

</AI7>

<AI8>

2.6   Y Bwlch Cyflogaeth Anabledd a’r system addysg

</AI8>

<AI9>

2.7   Sesiwn Graffu Flynyddol Banc Datblygu Cymru - 20 Tachwedd 2024: Gwaith dilynol

</AI9>

<AI10>

3       Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

</AI10>

<AI11>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1     Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

</AI11>

<AI12>

5       Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

5.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3.

5.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog gyda nifer o gwestiynau dilynol, gan ofyn am ragor o wybodaeth am rai meysydd diddordeb penodol a godwyd yn ystod y sesiwn.

</AI12>

<AI13>

6       Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hawliau Cyflogaeth

6.1     Trafododd y Pwyllgor nodyn cyngor cyfreithiol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd ar ei farn cyn drafftio ei adroddiad ar y materion polisi.

6.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel y Pwyllgor sy'n arwain ar faterion cyfansoddiadol, gan fynegi ei bryderon ynghylch rhai pwerau cyfreithiol penodol a roddwyd i Lywodraeth y DU a gynhwysir yn y Bil.

</AI13>

<AI14>

7       Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Data (Defnydd a Mynediad)

7.1     Trafododd y Pwyllgor nodyn cyngor a briff cyfreithiol y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd ar ei ddull o ymdrin â’i adroddiad.

</AI14>

<AI15>

8       Ymchwiliad Hybu Cig Cymru: Trafod y papur Cwmpas a Dull

8.1     Cytunodd y Pwyllgor ar gwmpas a dull ei ymchwiliad newydd i Hybu Cig Cymru, a chytunodd i symud ymlaen gyda sesiynau tystiolaeth lafar yn yr hanner tymor nesaf.

</AI15>

<AI16>

9       Yr Economi Sylfaenol: Trafod y materion allweddol

9.1     Trafododd y Pwyllgor y papur briffio materion allweddol a chytunodd ar y sail i ddechrau drafftio ei adroddiad.

</AI16>

<AI17>

10    Yr Economi Werdd: Trafod yr adroddiad drafft

10.1   Dechreuodd y Pwyllgor drafod ei adroddiad drafft, a chytunodd i ailedrych ar yr eitem hon yn ei gyfarfod nesaf, yn dilyn newidiadau i'r argymhellion yn yr adroddiad.

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>